SL(6)426 – Rheoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cyfnodau ar gyfer cofrestru arolygydd cofrestredig adeiladu a chymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu, yn nodi’r sancsiynau ar gyfer cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu ac yn ymdrin ag apelau ynghylch penderfyniad sydd wedi’i wneud gan Weinidogion Cymru, sef yr awdurdod rheoleiddio o ran Cymru, o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn rhagnodi’r cyfnod ar gyfer cofrestru arolygydd cofrestredig adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r cyfnod ar gyfer cofrestru cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu.

Mae rheoliad 4 yn nodi, pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn disgyblu, fod rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi copi o’r gorchymyn disgyblu i bob awdurdod lleol yng Nghymru pan fo cofrestriad cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu wedi’i amrywio, wedi’i atal am gyfnod penodedig, neu wedi’i ganslo o ddyddiad penodedig.

Mae rheoliad 5 yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud neu’n dirymu gorchymyn o dan adran 58V o’r Ddeddf, fod rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi copi o’r gorchymyn atal dros dro interim i bob awdurdod lleol yng Nghymru pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y toriad a amheuir mor ddifrifol fel eu bod, os ydynt yn penderfynu bod y toriad wedi digwydd, yn debygol o wneud gorchymyn o dan adran 58U(2)(d) o’r Ddeddf yn canslo cofrestriad y person.

Mae rheoliad 6 yn ymwneud ag apelio penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 2A o’r Ddeddf.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn fod adran 1 o Ddeddf Adeiladu 1984 wedi’i nodi’n un o’r pwerau galluogi. A allech chi egluro ar ba is-adran(au) y dibynnir?

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Rhagfyr 2023